|
Ein
Hamcanion
Hanes
y Gymdeithas
Brîd
Hynafol
Canmlwyddiant
- 2004
Mae can mlynedd ers cynnal cyfarfod a fu’n drobwynt
o ran ffyniant y Gwartheg Duon Cymreig a phryd y crewyd un
o’r cymdeithasau brîd mwyaf eu parch yn y byd,
sef Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig (CGDC).
Mae i’r Gymdeithas enwogrwydd byd-eang ac mae ei haelodau
a’i gwartheg yn ehangu drwy’r byd i gyd, gydag
aelodau’r teulu brenhinol ymhlith ei hedmygwyr.
Y cyfarfod hwnnw a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Boar’s
Head, Caerfyrddin, ar 24 Awst 1904, a sicrhaodd fod Cymdeithas
Bridwyr y Gwartheg Duon Cymreig, De a Gogledd Cymru, sef cymdeithasau
a fu mewn bodolaeth ar wahân ers 1870au, yn dod ynghyd
i greu cymdeithas dros Gymru gyfan.
“Rwy’n siwr y byddai’r 25 o fridwyr a oedd
yn bresennol yn y cyfarfod pwysig hwnnw yn falch dros ben
gyda’r modd y mae’r gymdeithas a’r brîd
wedi ehangu. Bellach, mae gennym 870 o aelodau egnïol,
20 ohonynt dramor” meddai Andrew James, Prif Weithredwr
presennol y Gymdeithas.
Y Llywydd cyntaf oedd Mr R. M. Greaves, Wern, Porthmadog,
a’r Ysgrifennydd cyntaf oedd James Thomas, Hwlffordd.
Cyhoeddwyd yn y flwyddyn ganlynol, cyfrol gyntaf llyfr y fuches
unedig newydd yn cynnwys 211 o deirw a 698 o fuchod. Bellach,
mae’r Gymdeithas wedi cyrraedd ei 93ain cyfrol.
Ynys Môn oedd y lleoliad a drefnwyd ar gyfer arwerthiant
cyntaf y Gymdeithas ar 26 Mawrth, 1915, ac fe’i cynhaliwyd
ym Mhorthaethwy. Ar y diwrnod hwnnw, catalogwyd tua 46 o anifeiliaid
gyda’r pris uchaf am darw yn hanner can gini, a’r
pris uchaf o ran y buchod yn chwarter can gini. Tra ymron
90 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2004, gwerthwyd
Hafodesgob Harri, tarw a fagwyd ar fferm Mrs Gwenfair Jones,
Y Bala, am 22,000 gini (£23,100) i Enzo Sauro, Buches
Berem, Caerfyrddin, gyda’r tarw’n cyrraedd y pris
uchaf erioed o safbwynt y Gwartheg Duon Cymreig.
Fodd bynnag, rhwystrodd y dirwasgiad amaethyddol yn y 1920au
a’r 30au yr ymdrechion i gynnal marchnadoedd rheolaidd,
ond ym 1957, cynhaliwyd arwerthiant llwyddiannus yn Nolgellau
gan sefydlu’r dref honno yn ganolfan i fridwyr y Gwartheg
Duon Cymreig i ymgynnull.
Bellach, cynhelir saith o arwerthiannau brîd swyddogol
yn flynyddol yn Nolgellau, Llanymddyfri a’r Fenni, tra
adferwyd unig arwerthiant y Gymdeithas tu hwnt i Glawdd Offa
yng Nghaerliwelydd, Cymbria, yn 2003.
Bu’r Gymdeithas yn benderfynol i symud gyda’r
oes, a hybwyd datblygiad y brîd ac iechyd y fuches yn
y blynyddoedd diweddar gyda chyllid Ewropeaidd Amcan 5b ar
gyfer gwelliannau, megis rhaglen brawf y Clefyd Johne. Ers
mis Ebrill 2005, mae tua 215 o aelodau wedi cofrestru ar gyfer
profion buchesi.
Dros y degawdau, mae’r Gwartheg Duon Cymreig wedi derbyn
llu o wobrwyon a chydnabyddiaeth, ond erys un flwyddyn yn
arbennig yn y cof.
Yn y Calendr Tsieineaidd, roedd y flwyddyn 2000 yn Flwyddyn
y Ddraig, ond o ran y cylch arddangos gwartheg, roedd y flwyddyn
honno, heb os nac onibai, yn Flwyddyn y Gwartheg Duon Cymreig
pryd y cipiodd y brîd ymron pob prif wobr.
Ymhlith y llu o anrhydeddau a dderbyniwyd, gwobrwywyd Gwobr
Burke am y pâr gorau o wartheg bîff yn y Sioe
Frenhinol yn Swydd Warwick, sy’n cyfateb i Wobr Fitzhugh
yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, a Chwpan y Frenhines
ar gyfer bridiau cynhenid Prydeinig yn Sioe Frenhinol Smithfield.
Ystyriwyd bod llwyddiant y brîd yn y cylch arddangos
y flwyddyn honno yn ddyledus i bâr eithriadol o anifeiliaid
a fagwyd ar y fferm, sef Mynydd William II a Mynydd Marigold
II (lluniau i’w gweled isod), sef eiddo Martin Stewart
a’i deulu o Fae Colwyn.

Swyddogion y Gymdeithas a’r Sioe
ynghyd â Theulu Stewart o Fae Colwyn, sef perchnogion
y pâr o anifeiliaid a fagwyd ar eu fferm, sef Mynydd
William II a Mynydd Marigold II, a gipiodd y gwobrau i gyd
yn y sioeau a gynhaliwyd yn 2000 gan gynnwys Sioe Frenhinol
Cymru.
“Pe medrwn ddewis blwyddyn sy’n crynhoi pob peth
da ynglyn â’r brîd a’r hyn sydd wedi’i
gyflawni gan y Gymdeithas a’i haelodau, yna mae’n
rhaid mae’r flwyddyn 2000 yw honno,” medd Andrew
James.
“Roedd yn ddechrau arbennig i’r mileniwm newydd
ac yn hwb rhyfeddol i’r Gymdeithas.”
Yn unol â’r awydd i gadw yn y rheng flaen o ran
datblygiadau amaethyddol, lansiwyd Clwb Organig Cymdeithas
y Gwartheg Duon Cymreig yn ystod y Ffair Aeaf Frenhinol Gymreig
2001 ar anogaeth Brian Thomas, Llanerchymedd, Ynys Môn.
Bwriad y clwb yw hybu cynnyrch cig eidion organig ymhlith
aelodau a chreu mwy o ymwybyddiaeth marchnata, ymhlith 70
o aelodaeth gref a datblygol. Ym mis Mawrth 2003, barnwyd
bod Ffiled Cig Eidion Organig y Gwartheg Duon Cymreig y gorau
allan o’r naw brîd arall y derbyniwyd ceisiadau
mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Fine France UK.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r brîd a’r
Gymdeithas wedi parhau i ddatblygu; y flwyddyn 2003 fu’r
flwyddyn ariannol orau erioed o ran yr elusen gofrestredig
gyda’r Gymdeithas yn cofnodi elw o £19,400.
Mae cofrestriadau hefyd ar gynnydd gyda 2,499 o fuchod a
theirw bridio yn cael eu cofrestru yn ystod 2003, sef y cofrestriad
uchaf ers 1989.
“Bu’r Gwartheg Duon Cymreig o gwmpas am ganrifoedd,
ac er mai ond am gyfran fechan o’r amser hwnnw y bu’r
Gymdeithas mewn bodolaeth, rydym wedi ymdrechu bob amser i
sicrhau bod y Gwartheg Duon yn cynnal eu gwir safle fel y
brîd cynhenid Cymreig”, medd Andrew James.
“Rydym yn benderfynol i beidio â bodloni ar hyn
ond parhau, yn hytrach, i ymgyrchu i wneud y brîd a’i
gig eidion ymhlith y gorau yn y byd. I’r perwyl hwnnw,
marchnata Cig Eidion y Gwartheg Duon Cymreig yw her sengl
ein hagenda ar hyn o bryd.”
Yn ôl i’r brig
|