|
Ein
Hamcanion
Hanes
y Gymdeithas
Brîd
Hynafol
Canmlwyddiant
- 2004
Mae brîd y Gwartheg Duon Cymreig yn un o’r
rhai hynaf ym Mhrydain ar ôl trigo ar fynyddoedd Cymru
ers yr adeg cyn-Rufeinig a chyn-Gristnogol.
Hwy oedd eiddo mwyaf gwerthfawr y Brythoniaid pan wnaethont
ffoi tua’r gorllewin rhag y Sacsoniaid goresgynnol.
Gwnâi’r porthmyn yrru’r gwartheg am wythnosau
er mwyn eu gwerthu mewn marchnadoedd yn Lloegr, ac yna dychwelyd
i Gymru gyda symiau helaeth o arian gan eu gwneud, yn anffodus,
yn dargedau i ysbeilwyr a lladron pen ffordd.
Ond gwnaeth y bygythiad cyson hwn o ladradau beri i’r
banc cyntaf gael ei ffurfio, sef Banc yr Ychen Du, sef rhagflaenydd
Banc Lloyds.
Oherwydd ei fod yn frîd tra wydn gyda’r gallu
i wrthsefyll tiroedd a thymheredd eithafol, fe’i dosberthir
fel brîd deuddiben, sy’n cynhyrchu llaeth a bîff.
Cyn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, ychydig iawn o Wartheg
Duon Cymreig a allforiwyd tu hwnt i’r Deyrnas Unedig,
ond bellach, maent yn bodoli yng Nghanada, Seland Newydd,
Awstralia a’r Almaen yn ogystal â gwledydd, megis
Saudi Arabia, Jamaica ac Uganda.
Yn ôl i’r
brig
|