|
Ein
Hamcanion
Hanes
y Gymdeithas
Brîd
Hynafol
Canmlwyddiant
- 2004
O
edrych yn ôl ar 2004, gall Cymdeithas y Gwartheg Duon
Cymreig gofio am y canmlwyddiant fel y flwyddyn pryd eu tywyswyd
o giniawa yng nghartref Tywysog Cymru i’w llwyddiannau
mwyaf erioed mewn sioeau ac arwerthiannau.
Ym mis Mehefin, wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth y Tywysog,
teithiodd 107 o aelodau’r Gymdeithas i Highgrove i ymweld
â’r fferm a’r gerddi, yn ogystal â
chwrdd â’i Noddwr Brenhinol.
“Bu’n ddiwrnod mwyaf cofiadwy i bawb gyda chyfle
i gwrdd Ei Uchelder Brenhinol yn unigol”, medd Andrew
James, Prif Weithredwr y Gymdeithas.
Dilynwyd hyn gan lwyddiant ym Mhencampwriaeth y Pâr
Gorau o Wartheg Bîff Cynhenid yn y Sioe Frenhinol yn
Stoneleigh a bu hyn yn fan cychwyn i lwyddiannau’r Gwartheg
Duon Cymreig o fewn y cylch sioeau yn ystod 2004. “Bu’n
gychwyn cyfnod llwyddiannus yn y sioeau gyda’r fuddugoliaeth
yn fwy melys o’i hennill dros Glawdd Offa!”, medd
Andrew.
Cyhoeddwyd yn y Western Mail “Welsh is the new Black”
pryd y gwnaeth y brîd gipio, i bob pwrpas, y gwobrwyon
yng nghylch Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Dewiswyd Eirianfa Ebrill, sef heffer deirblwydd oed, allan
o 900 o wartheg yn ‘Bencampwr’ y Gwartheg Bîff,
ac aethpwyd ymlaen i gipio safle’r Pencampwyr Neilltuedig
yn y Tîm o 5 o Wartheg Bîff ynghyd â Phencampwyr
y Grwp Cynhenid o 3. Uchafbwynt y sioe oedd ennill Gwobr fawreddog
Pencampwriaeth Barhaol Fitzhugh am y pâr o Wartheg Bîff
gorau gan y tîm yn cynnwys Seisiog Cymro ac Eirianfa
Ebrill.
Lansiwyd hefyd yn y Sioe ‘The Best of Breed’,
sef hanes y Gwartheg Duon Cymreig gan Jenny Buckton, a chynhaliwyd
Cinio Dathlu Canmlwyddiant y Gymdeithas ar Faes y Sioe pryd
y ciniawodd dros 300 o aelodau ar gig eidion y Gwartheg Duon
Cymreig.
Yn y cyfamser, fe’n hatgofiwyd gan orymdaith y porthmyn
yn Llanymddyfri am y cyswllt arbennig rhwng y Gwartheg Duon
Cymreig, Llanymddyfri, a’r byd bancio gan mai porthmon
lleol, sef David Jones, a sefydlodd Fanc yr Ychen Du ym 1799,
rhagflaenydd Banc Cynilo Lloyds yng Nghymru.
Dilynwyd hyn gan gynhadledd ryngwladol pryd y clywyd gan
27 o aelodau’r Gymdeithas ledled y byd am eu profiadau
parthed y brîd. Tra bu arwerthiannau Canmlwyddiant y
Gymdeithas yn yr hydref tu hwnt i’r disgwyl yn Y Fenni,
Llanymddyfri, Dolgellau a Chaerliwelydd.
“Y fath dymor o arwerthiannau a gafwyd, gwerthwyd 367
o fuchod yn ystod yr hydref hwn o gymharu â 300 o fuchod
ym mhob un o arwerthiannau 2003. Rwyf wrth fy modd gyda pherfformiad
yr arwerthiannau pedigri pryd y cafodd pob aelod bris da am
eu gwartheg.”
O ran y Gwartheg Duon Cymreig, daeth 2004 i ben gyda sioe
dda yn y Ffair Aeaf Frenhinol Gymreig, a Phencampwr Neilltuedig
yng Nghwpan Dug Norfolk yn Sioe Frenhinol Smithfield.
Agorodd gweithgareddau’r Flwyddyn Newydd ar 14 Ionawr
pryd y cynhaliwyd y 49ain Sioe Aeaf Flynyddol Cymdeithas y
Gwartheg Duon ac Arwerthiant yn Nolgellau, gyda thymor arwerthiant
y gwanwyn yn cychwyn ym mis Ebrill.
Daethpwyd â dathliadau canmlwyddiant y Gymdeithas i
ben gyda diweddglo cyffrous ar 13 Mai pryd y cynhaliwyd diwrnod
agored fferm lywyddol a chyngerdd arbennig.
Yn ôl i’r
brig
|