| 
Gall brîd y Gwartheg Duon Cymreig wir hawlio
ei fod yn frîd Prydeinig brodorol gan iddo gael ei ddatblygu,
ac y parheir i’w ddatblygu yn y Deyrnas Unedig drwy
eneteg y Gwartheg Duon Cymreig Prydeinig yn unig, heb unrhyw
fewnbwn o waed Gwartheg Duon Cymreig sydd wedi’i fewnforio
nac o fridiau eraill.
Er y gwelwyd bod y Gwartheg Duon Cymreig yn perfformo’n
dda mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan gynnwys bridio bîff
iseldir a systemau pesgi, seiliwyd enw da y brîd ar
ei allu i ffynnu ar dir ymylol ac ucheldiroedd. Yno, enillodd
ei barch oherwydd ei arferion porthi a’i wytnwch, ynghyd
â’i allu i loia a magu’n rhwydd.
Y gallu hwn i droi tir pori garw yn llaeth ar gyfer lloi
ac yn gig eidion o’r radd flaenaf a sicrhaodd iddo le
o fewn systemau ffermio cyfoes.
Dyma’r nodweddion a gynhaliodd y galw enbyd am bedigri’r
Gwartheg Duon Cymreig gan ddarparu cyfleoedd proffidiol ar
gyfer bridwyr presennol a newydd y brîd. Tra defnyddir
teirw’r Gwartheg Duon Cymreig yn bennaf ar gyfer bridio
pur, darganfydda ffermwyr llaeth, yn ogystal, bod y tarw Du
Cymreig yn croesi’n dda gyda’r fuches odro.
Gwnaiff Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig drefnu nifer o
arwerthiannau swyddogol yn yr hydref a’r gwanwyn, gwnânt
annog a chefnogi dosbarthiadau’r brîd mewn prif
sioeau, yn ogystal â chynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd
i unrhyw un sydd â diddordeb yn y brîd. Mae gan
y Gymdeithas hefyd ei Chlwb Organig ar gyfer cynhyrchwyr,
presennol a phosibl, sy’n cynhyrchu Gwartheg Duon Cymreig
a chig eidion organig.

Yn ôl i’r brig
|
 |
Y
Tarw Du Cymreig
Dwfn, hir, cefn gwastad a llinell isaf syth, gydag asgwrn
cryf. Cerddediad rhydd a syth.
Pen gweddol fyr gyda lled da ar draws y talcen, ffroenau agored
a gên gref; llygaid amlwg a hynaws; clustiau o gymharol
faint gyda chôt dda o flew meddal o’u hamgylch;
cyrn bwaog a chryf sy’n goleddu tuag ymlaen. Mewn anifail
ifanc, mae’r cyrn fel rheol yn arw ac o liw llechen
dywyll, gan droi’n llyfnach ac yn oleuach fel y maent
yn datblygu gyda’r blaenau’n ddu.
O hyd cymharol, yn drwchus a chryf ac yn torri’n lân
o dan y pen.
Yn llyfn a thwt ac yn ymdoddi’n naturiol i’r corff,
heb fod yn rhy amlwg.
Dwfn, llydan a chynhwysfawr. Cefn syth, a llwynau cryf a llydan.
Asennau hir gyda bwa da; yn llanw’n dda at yr ysgwydd
ac yn wastad ar draws y lwyn. Ystlys drwchus.
Cadarn, heb fod yn rhy isel nac yn rhy amlwg.
Digon o hyd, lled a dyfnder, gydag ymddangosiad crwn wrth
sefyll y tu ôl i’r anifail. Y chwarteri’n
llanw lawr yn dda at y garrau. Dylai’r gynffon fod yn
llyfn ac yn dwt gan orwedd yn naturiol rhwng y cluniau. Y
coesau ôl yn syth o’r garrau i’r egwyd gan
sefyll ar garnau caled.
Croen: Yn gymharol drwchus; ystwyth.
Côt: Yn gymharol hir a thrwchus heb flewyn cyrliog.
Lliw : Du. Caniateir rhywfaint o wyn ar y torlinell tu ôl
i’r bogail. Mae dwyster y lliw yn medru amrywio o fod
mor ddu â’r fran i gochddu.
|