|
Fel ag y mae’n wir gyda mwyafrif y bridiau brodorol
go iawn, mae gwreiddiau’r Gwartheg Duon Cymreig braidd
yn annelwig. Mae tystiolaeth ar gael fod y brîd, neu
ei ragflaenwyr, wedi bodoli yn oes y Rhufeiniaid ac awgrymwyd
y gellir olrhain gwreiddiau’r brîd i Orynys Iberia.
Yn sicr, bridiwyd gwartheg duon yng Nghymru ymhell dros 1,000
o flynyddoedd, ac megis yn Yr Alban a nifer o rannau eraill
o Brydain, fe’u defnyddiwyd yn aml fel math o arian,
a dyna’r rheswm y cyfeiriwyd at y fuches fel “yr
aur du o fryniau Cymru”.
Chwaraeodd y gwartheg hyn a’u porthmyn ran allweddol
o ran datblygu rhwydwaith Cymru fodern gan gynnwys gwasanaethau
megis ffyrdd a bancio.
Hyd yn gynnar yn 70au’r ganrif ddiwethaf, ystyriwyd
y Gwartheg Duon Cymreig fel brîd deuddiben o ran cynhyrchu
bîff a buches odro. Roedd yna ddau fath penodol o’r
brîd, sef y math o wartheg bîff byrdew o Ogledd
Cymru a’r fuwch odro megis yr anifail o Dde Cymru neu
Gastell Martin. Cyfuna brîd y Gwartheg Duon Cymreig
yn yr unfed ganrif ar hugain y gorau o’r ddau o ran
gallu’r brîd i loia’n rhwydd ac o ran y
cynnyrch llaeth i fagu lloi cryf.
Dynodwyd yn y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd ar fuches y Gwartheg
Duon Cymreig ym 1883 i Gymdeithas gyntaf y Gwartheg Duon Cymreig
gael ei sefydlu yn y flwyddyn flaenorol er nad oes unrhyw
gofnodion hyd 1904.
Cymylwyd y sefyllfa ymhellach yn yr ystyr bod Cymdeithasau’n
bodoli ar wahân yng Ngogledd a De Cymru hyd y lansiwyd
y Gymdeithas gyfoes mewn cyfarfod yng Ngwesty’r Boars
Head yng Nghaerfyrddin ym mis Awst 1904.
Hyd yn gynnar yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf, lleolwyd
y Gymdeithas yng Nghaernarfon, gan symud ei phrif swyddfa
yn ddiweddarach i adeilad y Gymdeithas ar Faes Sioe Frenhinol
Cymru yn Llanfair ym Muallt tra’n cynnal y swyddfa yng
Nghaernarfon fel y ganolfan ar gyfer aelodaeth y Gymdeithas
a gweithgaredd cofrestru.
Canlyniad hyn oll yw brîd Gwartheg Duon Cymreig cyfoes
yn cynnig gwartheg sy’n diwallu anghenion amaethu cyfoes
gyda gwartheg sugno o faint gweddol fawr sy’n rhwydd
i’w trin gyda’r gallu i fagu lloi pur neu groesfrid
cryf sy’n addas ar gyfer systemau traddodiadol a systemau
pesgi dwys y brîd bîff.
Yn ôl i’r brig
|
 |
Y
Fuwch Ddu Gymreig
Dwfn, hir, gyda mwy o ddyfnder ar draws y chwarteri ôl
na thrwy’r chwarteri blaen. Cefn gwastad. Cerddediad
rhydd a syth.
O hyd cymharol, talcen llydan, ffroenau agored a gên
gref; llygaid amlwg a hynaws; clustiau cymharol fawr gyda
chôt dda o flew meddal yn eu hamgylchynu; cyrn yn llyfn
gyda digon o led rhyngddynt. Cyn belled â bod y cyrn
yn asio’n dda i’r pen, caniateir cryn lawer o
ryddid o ran eu cyfeiriad, ond ar y cyfan, byddai’n
ddymunol petai’r cyrn yn weddol wastad, gyda’r
blaenau’n troi i fyny ar ffurf bwa.
Yn ymdoddi’n naturiol gan dorri’n lân o
dan y pen.
Yn llyfn ac yn ymdoddi’n dda i’r corff, heb fod
yn rhy amlwg.
Canol helaeth gydag asennau dwfn wedi’u hasio’n
dynn ar draws y lwynau. Cynffon sy’n ymdoddi’n
naturiol heb fod yn rhy amlwg.
Cluniau llydan heb fod yn rhy drwchus, gyda’r chwarteri’n
llanw lawr yn dda at y garrau. Y coesau ôl yn syth o’r
garrau i’r egwyd gan sefyll ar garnau cadarn.
Y gadair yn dra chynhwysfawr, gyda chroen meddal ac ystwyth
heb amlygu unrhyw fraster. Yn ymestyn ymlaen ac yn ôl
ac wedi ei chlymu’n dda wrth y corff. Y tethi o faint
rhesymol gyda digon o le rhyngddynt.
Croen: Yn gymharol drwchus; ystwyth.
Côt: Yn gymharol hir a thrwchus heb flewyn cyrliog.
Lliw : Du. Mae dwyster y lliw yn medru amrywio o fod mor ddu
â’r fran i gochddu. Caniateir rhywfaint o wyn
ar y torlinell.
|