gan Julie Jones, Cofnodi Perfformiad,
Hybu Cig Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Gwartheg
Duon Cymreig.
Gwnaiff Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig hyrwyddo
rhaglen i wella’r brîd. Mae tua 10% o’r
aelodaeth sydd eisoes yn cofnodi yn derbyn cefnogaeth drwy
nawdd Amcan 5b.
Y bwriad yw galluogi’r buchesi sy’n cymryd rhan
i gynyddu eu heffeithiolrwydd ac o ganlyniad, eu proffidioldeb.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â chofnodi
gwartheg, cysylltwch â HCC, Blwch Post 176,
Aberystwyth, SY33 2YA
Ffôn: 01970 625 050
E-bost: enquiries@hccmpw.org.uk
Cofnodi Perfformiad y Gwartheg Duon
Cymreig
Pam cofnodi?
- Er sicrhau bod y fuches yn datblygu ac yn symud i’r
cyfeiriad iawn, gan gynhyrchu anifeiliaid gyda’r cydffurfiad
gorau posibl, ac mor effeithiol â phosibl. Anodd yw
cofio’n hollol pa gyflwr oedd disgynyddion pob buwch
yn flynyddol, ond trwy gofnodi pwysau’r stoc, mae’n
haws cofio a gwneud y penderfyniadau bridio gorau.
- Cyflwyno gwybodaeth i brynwyr ynglyn â pha mor dda
mae’r gwartheg yn cymharu.
Mae’n dod yn fwyfwy hanfodol i fedru darparu gwybodaeth
ychwanegol ynglyn â gwartheg. Defnyddir Gwerthoedd Bridio
Tybiedig (Estimated Breeding Values – EBVau) yn helaeth
dramor ac maent bellach yn cael eu cydnabod yn fwyfwy yn y
Deyrnas Unedig. Yn rhyngwladol, edmygir rhaglen Bridwyr Bîff
Signet oherwydd y modd y mae’n gweithio a’r ffaith
ei bod yn annibynnol. Gydag ailagor y marchnadoedd allforio
ar y gorwel, mae’n bwysig i geisio darparu ffigurau
– mae gan y Gwartheg Duon Cymreig archebion semen helaeth
i’w cyflawni dramor.
Beth yw’r Gwerthoedd Bridio Tybiedig
(Estimated Breeding Values – EBVau)?
Y pwynt pwysig i’w gofio yw bod y Gwerthoedd Bridio
Tybiedig yn union yr hyn y maent yn ddweud ydynt, h.y. mae’n
amcangyfrif ynglyn â sefyllfa fridio’r anifail,
yn hytrach na disgrifiad o’r anifail.
Er enghraifft, gall dau anifail gael yr un EBVau ond gall
un ohonynt gael ei fwydo’n fwy o lawer. Disgwylir i’r
anifail sydd wedi’i fwydo fwyaf fod yn fwy o ran maint
ond gall EBVau fedru gwahaniaethu rhwng bwydo a bridio.
Sut y cyfrifir EBVau?
Cyfrifir EBVau drwy gymryd pwysau anifeiliaid hyd at ddeunaw
mis oed. Cymerir hefyd un mesur uwchsonig o’r cyhyrau
a dwysedd braster. Yn y cyswllt hwn, cedwir y gwaith mor hwylus
â phosibl.
Yn ddelfrydol, mae angen pwyso gwartheg dair gwaith y flwyddyn
– gellir cyfuno hyn gyda gwaith rheoli arall.
Bwydir y wybodaeth a gesglir ynglyn â phob anifail
i raglen gyfrifiadurol – BLUP. Drwy’r rhaglen
hon, gellir cymharu a chyferbynnu sut y mae pob anifail wedi
perfformio. Cymerir hefyd i ystyriaeth gwybodaeth ynglyn â
sut mae perthnasau’r anifail wedi perfformio er mwyn
cynhyrchu’r EBVau terfynol.
Y prif nod yw caniatáu bridwyr i ddynodi pa anifeiliaid
fydd â’r disgynyddion gorau (e.e. y carcasau trymaf,
gwell cydffurfiad, cyfnod beichiogi byrraf).
Nodweddion allweddol Bridwyr Bîff y
Gwartheg Duon Cymreig:
- Adroddiadau rheolaidd ar berfformiad lloi
- Gwerthusiadau BLUP ar draws y fuches i gynhyrchu amcangyfrif
o werthoedd genetig pob anifail yn nhermau naw EBVau, gwerthoedd
lloia a gwerthoedd bîff. Gellir cymharu’r rhain
gyda phob anifail arall o fewn brîd y Gwartheg Duon
Cymreig. At ei gilydd, caniateir bridwyr a bridiau i fonitro
cynnydd genetig.
- Ymweliad technegydd yn flynyddol ar gyfer buchesi o dros
20 buwch er mwyn sganio cyhyrau a dwysedd braster cefn a
gwerthuso cyhyredd yn gyffredinol
- Gwahoddiadau i gyfarfodydd trafod mewn grwpiau
Pa Werthoedd Bridio Tybiedig (EBVau)
sydd ar gael ar gyfer y Gwartheg Duon Cymreig?
Mae’r EBVau a gynhyrchir wedi’u llunio er darparu
ystod eang o wybodaeth ar gyfer bridwyr ynglyn â phob
anifail. Gweler isod:
Cyfnod Beichiogi (diwrnodau) Mae cyfnod
beichiogi byrrach yn ddymunol gan y cysylltir hynny â
phwysau geni ysgafnach a lloia haws ac mae’n ymestyn
y cyfnod rhwng lloia a chychwyn y cyfnod cenhedlu. Y mwyaf
negyddol y mae EBVau tarw, y byrraf yw’r cyfnod beichiogi
disgwyliedig hyd eni’r llo.
Disgwylir i darw gydag EBV o -2 ar gyfer cyfnod beichiogi
i gynhyrchu llo a enir ddiwrnod ynghynt, ar gyfartaledd, na
llo a genhedlir gan darw ag EBV o 0.
Lloia Rhwydd Cofnodir drwy ddefnyddio 5
categori, 1 heb gymorth, 5 llawdriniaeth. Drwy hyn, gellir
rhagfynegi’r effaith o ddefnyddio tarw penodol o ran
y canran o loi a enir heb gymorth e.e. disgwylir i 3% yn fwy
o’r lloi a genhedir gan darw ag EBV o +6 yn y categori
hwn i gael eu geni’n rhwydd o gymharu â lloi a
genhedlir gan darw ag EBV o 0.
Pwysau Geni Mae’n fwy tebygol fod
pwysau geni uchel yn gysylltiedig â lloia anodd. Rhagfynegir
drwy’r EBVau yn ymwneud â phwysau geni pa deirw
sy’n debygol o genhedlu’r lloi trymaf.
Disgwylir, ar gyfartaledd, i darw gydag EBV o -1 i gynhyrchu
lloi 0.5 kg yn ysgafnach na lloi a genhedlir gan darw ag EBV
o 0.
Gwerthoedd Lloia Drwy hyn, fe’n hysbysir
pa effaith a geir o ddefnyddio tarw penodol o ran rhwyddineb
geni ei ddisgynyddion. Ceir y wybodaeth hon o’r EBVau
ar loia rhwydd a’r cyfnod beichiogi, sy’n cydberthyn
i bwysau geni. Mae teirw sydd ag EBVau o ran Gwerthoedd Lloia
positif yn fwy tebygol o gynhyrchu lloi na sydd yn achosi
costau lloia uchel, o gymharu â lloi a gynhyrchir gan
deirw â Gwerthoedd Lloia isel.
Llaeth 200 Diwrnod Hanfodion mamol y cofnod
pwysau 200-diwrnod. Amcangyfrifir pa faint o berfformiad y
llo, hyd at 200 diwrnod oed, sy’n ddyledus i berfformiad
mamol y fam.
Disgwylir i darw gydag EBV uchel o ran llaeth 200-diwrnod
i gynhyrchu lloi heffrod sydd â nodweddion mamol yn
uwch na’r cyffredin ac yn arwain at loi sy’n drymach
ar ôl 200 diwrnod – e.e. disgwylir i darw gydag
EBV o +4 o ran llaeth 200 diwrnod i gynhyrchu lloi heffrod
â nodweddion mamol sy’n uwch na’r cyffredin
gyda’u lloi yn 2kg yn drymach ar ôl 200 diwrnod
o gymharu â lloi a genhedlir gan darw ag EBV o 0.
Twf 200-Diwrnod (pwysau byw - kg) Potensial
genetig yr anifail o ran twf o’i enedigaeth hyd ei ddiddyfnu
yn 200 diwrnod oed.
Disgwylir i darw gydag EBV o +20 o safbwynt twf 200 diwrnod
i gynhyrchu, ar gyfartaledd, lloi sy’n 10kg yn drymach
pan yn 200 diwrnod oed o gymharu â lloi a genhedlir
gan darw gydag EBV o 0.
Twf 400 - Diwrnod (pwysau byw - kg) Potensial
genetig yr anifail o ran twf o’i enedigaeth hyd 400
diwrnod oed.
Disgwylir i darw gydag EBV o +40 o safbwynt twf 400 diwrnod
i gynhyrchu, ar gyfartaledd, lloi sy’n 20kg yn drymach
pan yn 400 diwrnod oed o gymharu â lloi a genhedlir
gan darw gydag EBV o 0.
Sgôr Cyhyrol (pwyntiau: 1-15) Asesiad
gweledol o gydffurfiad anifail tua 400 diwrnod oed. Asesir
anifeiliad ar raddfa pwyntiau 1 hyd 15, yn seiliedig ar system
yr Undeb Ewropeaidd o ran dosbarthu carcasau. Dynoda sgôr
o 1 (P) gydffurfiad gwael iawn tra bydd anifeiliaid â
sgôr o 15 (E) yn dra chyhyrog.
Disgwylir, ar gyfartaledd, i darw gydag EBV o 1.0 pwynt o
ran sgôr gyhyrol gynhyrchu lloi 0.5 pwynt yn well o
ran priodoleddau cydffurfiad na lloi a genhedlir gan darw
gydag EBV o 0.
Dwysedd Cyhyrau (mm) Yn seiliedig ar fesuriad
wltrasonig o gyhyrau’r llygaid tua 400 diwrnod oed.
Disgwylir i darw gydag EBV o ran dwysedd cyhyrau o +0.2 i
gynhyrchu, ar gyfartaledd, 0.1 mm yn fwy o ddwysedd cyhyrau
llygaid o gymharu â lloi a genhedlir gan darw gydag
EBV o 0.
Dwysedd Braster (mm) Yn seiliedig ar fesuriad
wltrasonig o ddwysedd braster y cefn tua 400 diwrnod oed.
Rhagfynega EBVau negyddol, o ran braster, gig coch.
Disgwylir i darw gydag EBV o -0.2 o ran dwysedd braster gynhyrchu,
ar gyfartaledd, lloi 0.1mm yn feinach pan yn 400 diwrnod oed
o gymharu â lloi gan darw gydag EBV o 0.
Gwerthoedd Bîff Mae Gwerthoedd Bîff
yn gyfuniad o bob EBVau, yn arbennig y nodweddion twf a charcas.
Nod Gwerthoedd Bîff yw gwella dychweliadau ariannol
drwy wella pwysau caracasau, sgorau braster a chydffurfiad.
Yn ôl i’r brig
|