|
Hyrwyddir y Gwartheg Duon Cymreig ledled Lloegr a thu hwnt
gan y Gymdeithas. Gwnawn gynhyrchu cylchlythyron, mynychu
sioeau, cynnal diwrnodau agored ac ymweliadau fferm. Darparwn
wybodaeth ar argaeledd stoc, arwerthiannau, insemineiddio
artiffisial, llogi teirw, ac mae gan ein Hysgrifennydd Anrhydeddus,
sef Les Preston, sy’n byw yn Swydd Rydychen, ddeugain
mlynedd o brofiad gyda’r brîd.
Ysgrifennydd Anrhydeddus: Les Preston
Ffôn: 01844 279718/07767 870169
Wedi sefydlu’r clwb yn 2002 o ganlyniad i nawdd gan
y Llywodraeth, rhydd y Clwb Organig lais i fridwyr organig
y Gwartheg Duon Cymreig. I’r Clwb y mae’r diolch
y gall gwartheg organig bellach gael eu gwerthu yn arwerthiannau
bridiau pedigri y Gymdeithas. Caiff gwartheg organig eu magu
o’r un linach â’r gwartheg a fegir yn gonfensiynol;
fe’u megir, yn hytrach, o dan system wahanol. Mae cymaint
o alw am gig eidion organig y Gwartheg Duon Cymreig fel bo’r
galw ar hyn o bryd yn mynd tu hwnt i’r cyflenwad!
Cadeirydd: Steven Baker
Ffôn: 01982 551111
Megir y gwartheg hyn yn benodol heb gyrn, ac mae ansawdd y
rhain wedi gwella’n fawr yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Drwy ddefnyddio tarw moel pur gyda buches gorniog, yna gellir
disgwyl i 50 y cant o’r lloi fod yn foel, yn yr un modd
ag y disgwylir rhaniad o 50 y cant rhwng lloi benyw a gwryw.
Os ydy dau riant y tarw yn rhai moel ar y ddwy ochr, yna
gall y tarw fod yn darw moel pur gan gynhyrchu, gant y cant,
o loi moel bob amser. Mae’r tebygolrwydd o darw yn cynhyrchu
lloi moel pur yn cynyddu gyda’r nifer o linach foel
ar bob ochr.
Os yw tarw moel yn cenhedlu un llo corniog o unrhyw fath
o fuwch, profir yn bendant nad yw’n darw moel pur. Os
gwnaiff tarw gynhyrchu 12 llo moel o fuchod corniog yn olynol,
yna bernir yn ôl rheolau’r Gymdeithas bod y tarw
yn darw moel pur ac y gellir ei gofrestru yn unol â
hynny.
Hywel Davies
Ffôn: 01685 812316/811816
Eric Davies
Ffôn: 01874 730406
Yn ôl i’r brig |
Ysgrifenyddes: Nerys Ellis
Ffôn: 01690 770255
Lorraine Howells
Ffôn: 01685 840498
Meinir Davies
Ffôn: 01970 890259
23 Wyong Street
East Keilor, Victoria 3033,
Awstralia
Ysgrifenyddes: Carol Mazurek
Ffôn: 03 9331 5561
carolmazurek@bigpond.com
PO Box 61
Hastings
Seland Newydd
Ffôn: 06 8742850
Ffacs: 06 8742 477
colonsay@actrix.co.nz
Canada Livestock Records Corp (Corfforaeth Cofnodion Da Byw
Canada), 2417 Holly Lane, Ottawa,
Ontario, K1V 0M7
Canada
Cyswllt: Randy Scott
Ffôn: (613) 731 7110
lukita@telus.net
www.welshblack.com
Box 546
Trochu
Alberta, TOM 2CO
Canada
Ffôn/Ffacs: 403 442 4372
Heinrich-Luden Strasse 28
27612 Loxstedt
Yr Almaen (Germany)
Ysgrifennydd: Hans Stucke
Ffôn: 04744 2300
|