Welsh Black Cattle Society Logo
Gweler y dudalen hon
Welsh | English
Topbar  
 
 
  Hafan | Iechyd y Fuches | Trosolwg o Gynllun Iechyd Buchesi y Gwartheg Duon Cymreig (WBHS)
Amdanom ni
Y Brîd
Iechyd y Fuches
Arwerthiannau
Sioeau
Achlysuron
Newyddion
Clybiau
Siop
Bîff
Partneriaid
Cysylltiadau
Cysylltwch â ni

Iechyd y Fuches
gan Bruce Lawson, B.VSc., MRCVS

Trosolwg - Cynllun Iechyd Buchesi y Gwartheg Duon Cymreig (WBHS)
Y Diweddaraf o ran cynllun iechyd y fuches
Canllawiau'r Clefyd Johne
Y Clefyd Johne – Y Ffeithiau

Bruce lawson

Trosolwg - Cynllun Iechyd Buchesi y Gwartheg Duon Cymreig

Datblygwyd Cynllun Iechyd Buchesi Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig gyda’r bwriad o wella safonau iechyd o fewn buchesi, sy’n arwain at ardystiad o fod yn ‘rhydd’ o rai clefydau o bwys rhyngwladol, megis clefyd Johne, BVD, Leptospira, ac IBR.

Yn draddodiadol ac yn gymwys, canolbwyntiodd bridwyr pedigri ar fridio ar gyfer uwch eneteg. Heddiw gyda’r gallu i ganfod clefydau gyda mwy o fanylder o ganlyniad i dechnegau diweddaraf y labordai, bellach nid yw hyn, ar ben ei hun, yn ddigonol.

Mae prynu stoc sydd eisoes yn dioddef o glefydau y modd mwyaf cyffredin o gyflwyno clefyd i fuches iach. Dylai bridwyr geisio sicrhau ardystiad o fod yn rhydd o glefydau drwy gynllun iechyd gwartheg trwyddedig, ac felly warchod y prynwr rhag cyflwyno clefydau’n ddiarwybod i’w fuches.

Gwneir cryn gynnydd gan y Gwartheg Duon Cymreig gyda nifer cynyddol o fuchesi yn cael eu hardystio’n ‘rhydd’ o ran un neu fwy o glefydau.

Yn ôl i’r brig

 

Awgrym y Mis

Mae yna nifer o glefydau a all gael effaith ddifrifol ar fuches petai’r clefyd yn cael ei gyflwyno i fuches sy’n debygol o ddal y clefyd hwnnw. Rhai o’r clefydau mwyaf difrifol yw’r Clefyd Johne, BVD, Leptospirosis ac IBR.

A wyddoch beth yw statws iechyd eich buches o ran y clefydau hyn? Nid yn unig y mae’n bwysig i chi ddiogelu eich buches rhag clefydau y stoc a brynir-i-mewn, ond y mae hefyd yn bwysig i ddiogelu’r stoc a brynir-i- mewn rhag clefydau sy’n bodoli eisoes o fewn eich buches.

Os yn bosibl, ceisiwch osgoi prynu stoc i mewn, ond os bydd hynny’n angenrheidiol, prynwch o fuchesi y mae statws eu hiechyd yn hysbys. Fel arall, rhowch yr anifeiliaid mewn cwarantin am gyfnod pryd y medrir cynnal profion ar gyfer y clefydau perthnasol.

Ymgynghorwch â’ch milfeddyg am gyfarwyddyd ynglyn â mesurau bioddiogelwch eich buches.

Panel  

 

Hafan | Amdanom ni | Y Brîd | Iechyd y Fuches | Arwerthiannau | Sioeau | Achlysuron
Newyddion | Clybiau | Siop | Biff | Partneriaid | Cysylltiadau | Cysylltwch å ni

© Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig 2005
Dyluniwyd y wefan gan Moonhound Web & Print