|
Symptomau
Clefyd nychu cronig yw’r Clefyd Johne gyda dolur rhydd
helaeth a cholli pwysau er gwaethaf archwaeth dda, gan arwain
yn y pen draw at farwolaeth yr anifail. Mewn achosion unigol,
gall y symptomau amrywio o fod yn ddifrifol iawn i fod yn
ysgafn gydag ysbeidiau o ryddhad.
Cyfnod Heintus
Mae’r cyfnod heintus yn gyfnod hir (sef, rhwng blwyddyn
a phymtheng mlynedd). Golyga hyn y gall rhai gwartheg fod
wedi’u heintio er na ddatblygant symptomau’r clefyd,
ond, er hynny, medrant ledaenu’r haint drwy’r
fuches. Felly, gall y Clefyd Johne fod yn bresennol gan ledaenu
drwy’r fuches ymhell cyn i’r ffermwr fod yn ymwybodol
ohono. Yn aml, gall gwartheg ddatblygu symptomau o’r
clefyd ar ôl cyfnod o straen, megis lloia neu symud
i fferm arall, neu, mewn achos teirw, cyfnodau o waith.
Anifeiliaid sy’n dueddol o
ddal y clefyd
Mae lloi ifanc o dan 30 diwrnod oed yn dra agored i’r
clefyd a gwnânt ddatblygu ymwrthedd yn raddol fel y
maent yn mynd yn hyn. Ar ôl 12 mis, medrant wrthsefyll
y clefyd yn fwyfwy ac felly, anaml y gwnaiff buchod llawndwf
ddal yr haint.
Lledaeniad yr Haint
Lledaenir yr haint drwy lyncu’r organeb a geir o fewn
tail sydd wedi’i heintio. Gall un gram o dail buwch
sydd wedi’i heintio gynnwys dros 5 miliwn o facteria
Johne ac mae llai na 1000 o’r organebau hyn eu hangen
i heintio llo ifanc.
Lledaeniad o fewn y fuches
Mae lloi mewn perygl pan fônt yn sugno cadair sydd wedi’i
heintio a phan eu bônt yn agored i ddwr neu ffynonellau
bwyd sydd wedi’u heintio. Gall dulliau hwsmonaeth gyfoes
o gadw nifer helaeth o fuchod a lloi yn rhydd gyda’i
gilydd o fewn adeilad ledaenu’r clefyd yn fwyfwy.
Gall yr organeb oroesi ar dir pori hyd at
12 mis, ac mewn dwr hyd at 17 mis. Mae rhai buchod sydd wedi’u
heintio yn cael gwared â’r organeb drwy eu llaeth
a’u llaeth tor, a gall lloi weithiau eu heintio drwy
frych y fuwch cyn geni. Felly, mae’n dra thebygol y
gwnaiff buwch sydd wedi’i heintio drosglwyddo’r
haint i’w llo.
Trosglwyddo’r haint i fuches
Prynu anifail sydd eisoes wedi’i heintio ond heb amlygu
unrhyw arwyddion o’r clefyd yw’r modd arferol
o drosglwyddo’r clefyd i fuches.
Atal rhag lledaenu’r Clefyd
Johne ymhlith y fuches
Mae’n hanfodol na phrynir gwartheg sydd eisoes wedi’u
heintio. Golyga hyn y dylai gwartheg, lle nad yw eu statws
yn hysbys, gael eu profi a’u cadw ar wahân cyn
eu cynnwys o fewn y fuches. Fodd bynnag, oherwydd na fydd
y profion yn canfod yr haint ym mhob anifail yng nghyfnod
cychwynnol yr haint, mae bod yn ymwybodol o’r risg i’r
fuches yn fwy buddiol na gwybod canlyniadau’r profion
o ran anifail penodol. Felly, y gwartheg mwyaf diogel i’w
prynu yw’r rheini o fuchesi sydd eisoes wedi’u
monitro ac y profwyd eu bod yn ‘rhydd’ rhag y
clefyd.
Rheoli’r Clefyd Johne
Mae’r sylfaen reoli yn syml – rhaid dynodi’r
anifeiliaid hynny sydd wedi’u heintio a’u difa,
ynghyd ag epiliaid y gwartheg sydd wedi’u heintio, ac
mae’n rhaid atal heintiau newydd. Felly, mae gwaredu’r
Clefyd Johne o’r fuches yn golygu dealltwriaeth drylwyr
o’r clefyd gan y ffermwr, cyd-weithrediad clos gyda’i
filfeddyg a phrofion gwaed rheolaidd o ran y fuches. Fel rheol,
mae ymgais lugoer yn debygol o fethu.
Adnabod anifeiliaid sydd wedi’u
heintio
Cymerir samplau gwaed oddi wrth bob anifail 2 flwydd oed ac
yn hyn a gwneir profion mewn labordy ar gyfer y Clefyd Johne
(Prawf ELISA). Dylid difa pob anifail sy’n profi’n
bositif neu eu neilltuo oddi wrth weddill y fuches hyd nes
y gellir eu difa.
Ni all prawf gwaed ganfod yr haint ym mhob
anifail yng nghyfnod cynnar yr haint, ond fel yr amlygant
fwy o arwyddion y clefyd, gwna’r raddfa o’i ganfod
gynyddu i 96%. Felly, ar ôl difa anifeiliaid sy’n
profi’n bositif yng nghyfnod cynnar y clefyd, gall gwartheg
sydd eisoes yn dioddef o’r haint fodoli o fewn y fuches.
Fodd bynnag, nid yw’r anifeiliaid hyn, sydd yng nghyfnod
cynnar y clefyd, yn cael gwared â chymaint o organebau
ac maent yn llai o risg i wartheg eraill, o ran lledaenu’r
haint.
Er hynny, mae’n bwysig i ddeall y
risg o ymestyn yr haint o fewn buchesi mewn achosion lle bo’r
profion yn negyddol er eu bônt wedi’u heintio.
Oherwydd eu presenoldeb, mae’r rhaglenni prawf a’r
difa yn broses hir, o angenrheidrwydd, ac yn rheswm dros barhau
gyda’r profion yn flynyddol a dyna pham ei bod yn ofynnol
i gymryd camau i atal heintiau newydd.
Atal heintiau newydd o fewn y fuches
Mae hyn yn seiliedig ar gwtogi’r risg cyn belled â
phosibl i loi o dan flwydd oed, ond yn arbennig y lloi ieuangaf,
pan fônt yn agored i organebau’r clefyd Johne
a waredir drwy dail anifail sy’n dioddef o’r clefyd.
Brechiadau
Rhaid gofyn am gyngor gan eich milfeddyg ynglyn â defnyddio
brechiadau.
Mewn buchesi lle bo nifer helaeth o’r
gwartheg wedi’u heintio, mae brechu yn fodd effeithiol
o gwtogi’r nifer o achosion gan gwtogi, felly, ar yr
haint sy’n bresennol yn yr amgylchedd. O’i gyfuno
gyda hwsmonaeth a mesurau glanweithdra da (h.y. gofal rhag
lledaenu’r haint fel yr amlinellwyd uchod), gall fod
yn ddull effeithiol o reoli’r clefyd.
Brechir lloi yn yr wythnos gyntaf wedi iddynt
gael eu geni a pharheir gyda’r brechiadau am o leiaf
2 flynedd hyd nes y canfyddir nad yw’r clefyd Johne
yn bresennol.
Mae anifail sydd wedi’i frechu yn
llai tebygol o ddatblygu symptomau clinigol o’r clefyd
Johne, ond gall anifeiliaid sydd wedi’u brechu ddal
i gael eu heintio gan ysgarthu organebau ar raddfa fechan
heb i’r haint gael ei chanfod drwy’r prawf gwaed
ELISA. Oherwydd hyn, nid yw buches yn gymwys i gael ei hardystio’n
‘Rhydd’ rhag y clefyd tra bo anifeiliaid sy’n
cael eu brechu yn parhau o fewn y fuches.
Adfer deunydd genetig
Gall ymgais ddifrifol i reoli a gwaredu’r clefyd Johne
gynnwys difa stoc fridio werthfawr. Gellir diogelu deunydd
genetig drwy wneud defnydd o fridio artiffisial. Ystyrir semen
ac embryonau yn risg fechan o ledaenu’r haint. Wrth
reswm mae angen derbynyddion sy’n rhydd rhag y clefyd
ar gyfer y broses hon
Yn ôl i’r
brig
|