| Fel y brîd
o wartheg cynhenid Cymreig, mae cefndir Gwartheg Duon
Cymru yn dra hanesyddol – ystyriwyd y gwartheg
hyn am genedlaethau fel yr eiddo mwyaf gwerthfawr sydd
yr un mor gartrefol ar ucheldiroedd creigiog neu wastadedd
toreithiog.
Ond mae gan y brîd gwydn hwn,
sy’n darparu cig a llaeth o ansawdd da, lawer
i gynnig i systemau amaethu cyfoes, o gofio’u
cynnyrch didrafferth a blasusrwydd cydnabyddedig y cig.
Am gan mlynedd, bu Cymdeithas y Gwartheg
Duon Cymreig yn meithrin, hybu ac yn gwella’r
brîd, a deil i wneud hynny yn ddiwyro.
Drwy’r wefan hon, medrwch ddarganfod
mwy am y gwartheg rhyfeddol hyn, y cyfeiriwyd atynt
ar un adeg fel ‘Yr Aur Du’, yn ogystal â
gweithgareddau Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig.
|